11 Dylai pob mesur sych a hylifol fod yr un fath, ac yn gywir. Rhaid cael mesur safonol, a rhaid i bob mesur arall fod yn gyson â'r safon hwnnw.
12 A rhaid i werth arian fod yn gywir hefyd. Pum darn arian yn bump go iawn, a deg yn ddeg. Rhaid bod hanner cant o ddarnau arian mewn mina.
13 “‘Dyma'r offrwm sydd i'w gyflwyno: un rhan o chwe deg o'r ŷd a'r haidd;
14 un rhan o gant o'r olew olewydd;
15 ac un ddafad o bob praidd o ddau gant sy'n pori ar dir Israel. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio ar gyfer yr offrwm o rawn, yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr, a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â Duw,’” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
16 “Bydd pawb drwy'r wlad i gyd yn gyfrifol i ddod â chyflwyno'r offrymau yma i bennaeth y wlad.
17 Bydd y pennaeth wedyn yn gyfrifol am yr offrymau i'w llosgi, yr offrymau o rawn a'r offrymau o ddiod ar gyfer y Gwyliau, yr offrymau misol a'r Sabothau – pob un o wyliau crefyddol Israel. Fe fydd yn cyflwyno'r aberthau dros bechod, yr offrymau o rawn, yr offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, er mwyn gwneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw.