16 “Bydd pawb drwy'r wlad i gyd yn gyfrifol i ddod â chyflwyno'r offrymau yma i bennaeth y wlad.
17 Bydd y pennaeth wedyn yn gyfrifol am yr offrymau i'w llosgi, yr offrymau o rawn a'r offrymau o ddiod ar gyfer y Gwyliau, yr offrymau misol a'r Sabothau – pob un o wyliau crefyddol Israel. Fe fydd yn cyflwyno'r aberthau dros bechod, yr offrymau o rawn, yr offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, er mwyn gwneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw.
18 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn rhaid aberthu tarw ifanc sydd â dim byd o'i le arno i wneud y cysegr yn lân.
19 Bydd yr offeiriad yn cymryd peth o waed yr offrwm i lanhau o bechod a'i roi ar gilbyst drws y deml, ar bedair cornel sil yr allor ac ar byst y giât i'r iard fewnol.
20 Rhaid gwneud yr un peth ar y seithfed o'r mis, ar ran unrhyw un sydd wedi pechu'n ddamweiniol neu heb wybod am y peth. Dyna sut bydd yr offeiriad yn gwneud y deml yn lân.
21 “‘Mae Gŵyl y Pasg i'w dathlu ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf, a rhaid bwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod.
22 Ar y diwrnod hwnnw mae pennaeth y wlad i ddarparu tarw ifanc yn offrwm i lanhau o bechod ar ei ran ei hun a'r bobl.