4 Bydd yn dir wedi ei gysegru'n arbennig. Tir i'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yn y cysegr ac sy'n cael mynd yn agos at yr ARGLWYDD i'w wasanaethu e. Dyna ble bydd yr offeiriaid yn byw, a dyna hefyd ble bydd y Deml.
5 Wedyn bydd darn o dir wyth milltir o hyd a tair milltir a chwarter o led ar gyfer pentrefi y Lefiaid sy'n gwasanaethu yn y deml.
6 “‘Wrth ochr y tir cysegredig yna, bydd darn o dir wyth milltir o hyd a dros filltir a hanner o led, lle gall unrhyw un o bobl Israel fyw.
7 “‘Wedyn bydd dau ddarn o dir ar gyfer pennaeth y wlad – un i'r gorllewin o'r tir cysegredig, a'r llall i'r dwyrain. Bydd ei ffiniau yn gyfochrog â ffiniau tiroedd y llwythau.
8 Dyna'i diroedd e yn Israel. Fydd arweinwyr y wlad ddim yn gormesu fy mhobl o hyn ymlaen. Byddan nhw'n parchu ffiniau'r tir sydd wedi ei roi i bob un o lwythau Israel.
9 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyna ddigon! Chi arweinwyr Israel, stopiwch yr holl drais a'r gormes yma! Gwnewch beth sy'n iawn ac yn deg. Stopiwch daflu pobl allan o'u cartrefi.
10 Defnyddiwch glorian sy'n gywir, a mesurau sych a hylifol cywir.