12 Pan mae pennaeth y wlad yn cyflwyno offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol, offrwm i'w losgi'n llwyr neu offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a hynny o'i ddewis ei hun, bydd y giât sy'n wynebu'r dwyrain yn cael ei hagor iddo. Bydd yn cyflwyno'r offrymau yn union fel mae'n gwneud ar y Saboth. Wedyn bydd yn mynd allan, a bydd y giât yn cael ei chau tu ôl iddo.
13 “‘Bob bore rhaid i oen blwydd oed sydd â dim byd o'i le arno gael ei gyflwyno yn offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD.
14 Gyda'r oen rhaid cyflwyno offrwm o rawn bob bore – tua dau gilogram ac un rhan o dair o alwyn o olew olewydd i wlychu'r blawd. Fydd y rheol yma am yr offrwm o rawn byth yn newid.
15 Mae'r oen, yr offrwm o rawn a'r olew olewydd i'w gyflwyno bob bore yn offrwm i'w losgi'n llwyr.
16 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Os ydy pennaeth y wlad yn rhoi tir i un o'i feibion ei etifeddu, bydd y tir hwnnw'n perthyn iddo fe a'i ddisgynyddion am byth.
17 Ond os ydy e'n rhoi tir i un o'i weision, bydd yn perthyn i'r gwas hyd flwyddyn y rhyddhau; bryd hynny bydd y pennaeth yn cael y tir yn ôl. Dim ond y meibion sy'n cael cadw'r etifeddiaeth am byth.
18 Ddylai pennaeth y wlad ddim cymryd tir pobl oddi arnyn nhw a'u gorfodi nhw i adael eu cartrefi. Dim ond ei dir ei hun mae'n cael ei roi i'w feibion. Ddylai fy mhobl ddim cael eu gyrru oddi ar eu tir.’”