15 Mae'r oen, yr offrwm o rawn a'r olew olewydd i'w gyflwyno bob bore yn offrwm i'w losgi'n llwyr.
16 “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Os ydy pennaeth y wlad yn rhoi tir i un o'i feibion ei etifeddu, bydd y tir hwnnw'n perthyn iddo fe a'i ddisgynyddion am byth.
17 Ond os ydy e'n rhoi tir i un o'i weision, bydd yn perthyn i'r gwas hyd flwyddyn y rhyddhau; bryd hynny bydd y pennaeth yn cael y tir yn ôl. Dim ond y meibion sy'n cael cadw'r etifeddiaeth am byth.
18 Ddylai pennaeth y wlad ddim cymryd tir pobl oddi arnyn nhw a'u gorfodi nhw i adael eu cartrefi. Dim ond ei dir ei hun mae'n cael ei roi i'w feibion. Ddylai fy mhobl ddim cael eu gyrru oddi ar eu tir.’”
19 Wedyn aeth â fi trwy'r fynedfa sydd wrth ymyl y giât ac i mewn i ystafelloedd yr offeiriaid oedd yn wynebu'r gogledd. Dangosodd ystafell i mi oedd reit ar y pen draw ar yr ochr orllewinol.
20 “Dyma lle mae'r offeiriaid yn berwi cig yr offrwm i gyfaddef bai a'r offrwm i lanhau o bechod,” meddai. “Dyma hefyd lle maen nhw'n pobi'r offrwm o rawn. Maen nhw'n gwneud y cwbl yma er mwyn osgoi mynd â'r offrymau drwy'r iard allanol a peryglu'r bobl drwy ddod â nhw i gysylltiad â phethau sy'n sanctaidd.”
21 Wedyn aeth â fi allan i'r iard allanol a mynd â fi heibio pedair cornel yr iard. Roedd cwrt bach arall ym mhob cornel: