21 Wedyn aeth â fi allan i'r iard allanol a mynd â fi heibio pedair cornel yr iard. Roedd cwrt bach arall ym mhob cornel:
22 pedwar cwrt bach yr un maint, sef dau ddeg metr wrth un deg pump.
23 Roedd wal gerrig isel o gwmpas pob un ohonyn nhw, a nifer o leoedd tân ar gyfer coginio wrth waelod y wal.
24 “Dyma'r ceginau ble mae gweision y deml yn berwi'r cig o aberthau y bobl,” meddai wrtho i.