6 Ar Ŵyl y lleuad newydd mae i offrymu tarw ifanc, chwe oen ac un hwrdd – anifeiliaid sydd â dim byd o'i le arnyn nhw.
7 Offrwm o rawn hefyd – sef deg cilogram gyda'r tarw, deg cilogram gyda'r hwrdd, faint bynnag mae e eisiau ei roi gyda phob oen, a galwyn o olew olewydd gyda phob mesur o rawn.
8 Mae pennaeth y wlad i fynd at y giât drwy'r cyntedd allanol, a mynd allan yr un ffordd.
9 “‘Ond pan mae'r bobl gyffredin yn mynd i addoli'r ARGLWYDD ar y gwyliau crefyddol, mae pwy bynnag sy'n mynd i mewn trwy giât y gogledd i fynd allan drwy giât y de, a'r ffordd arall. Does neb i fynd allan yr un ffordd ag yr aeth i mewn; rhaid iddyn nhw ddefnyddio'r giât gyferbyn.
10 Ar yr adegau yma bydd pennaeth y wlad yn mynd i mewn ac allan gyda gweddill y bobl.
11 “‘Adeg y gwyliau crefyddol dylid cyflwyno deg cilogram o rawn gyda'r tarw, deg cilogram gyda'r hwrdd, a faint bynnag mae rhywun eisiau gyda'r ŵyn. A galwyn o olew olewydd gyda phob mesur o rawn.
12 Pan mae pennaeth y wlad yn cyflwyno offrwm sy'n cael ei roi'n wirfoddol, offrwm i'w losgi'n llwyr neu offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, a hynny o'i ddewis ei hun, bydd y giât sy'n wynebu'r dwyrain yn cael ei hagor iddo. Bydd yn cyflwyno'r offrymau yn union fel mae'n gwneud ar y Saboth. Wedyn bydd yn mynd allan, a bydd y giât yn cael ei chau tu ôl iddo.