1 “Ddyn, dw i eisiau i ti gymryd cleddyf miniog, a'i ddefnyddio fel rasel i siafio dy ben a dy farf. Wedyn cymer glorian i bwyso'r gwallt wyt ti wedi ei dorri, a'i rannu'n dri.
2 Rwyt i losgi traean ohono yn y ddinas pan fydd y cyfnod o warchae symbolaidd drosodd. Yna cymryd traean arall a'i dorri'n ddarnau mân gyda'r cleddyf o gwmpas y ddinas. Yna taflu'r traean sydd ar ôl i'r gwynt ei chwalu i bobman. Dw i'n mynd i dynnu fy nghleddyf o'i wain, a mynd ar eu holau nhw!
3 Ond cymer rhyw ychydig bach o'r gwallt a'i gadw'n saff yn dy boced.
4 Byddi'n cymryd ychydig o hwnnw i'w losgi yn y tân. Bydd y tân hwnnw'n lledu ac yn dinistrio Israel i gyd.”