10 Bydd pethau'n mynd mor wael yn Jerwsalem, bydd rhieni'n bwyta eu plant a plant yn bwyta eu rhieni! Dw i'n mynd i'ch barnu chi, a bydd y bobl hynny fydd yn llwyddo i oroesi yn cael eu gyrru ar chwâl i bob cyfeiriad.”
11 “Mor sicr a'r ffaith fy mod i'n fyw,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, “Am eich bod chi wedi llygru fy lle sanctaidd i gyda'ch eilunod a'r holl bethau ffiaidd eraill dych chi wedi eu gwneud, dw i'n mynd i'ch torri chi i ffwrdd. Fydd yna ddim trugaredd o gwbl!
12 Bydd traean poblogaeth Jerwsalem yn marw yn y ddinas o haint a newyn. Bydd traean arall yn cael eu lladd yn y rhyfel. A bydd y traean sydd ar ôl yn cael eu gyrru ar chwâl i bob cyfeiriad. Ond bydda i'n tynnu fy nghleddyf o'i wain ac yn mynd ar eu holau nhw!”
13 “Ar ôl hynny bydda i wedi tywallt hynny o ddigofaint sydd gen i arnyn nhw! Byddan nhw'n gweld, wedyn, fy mod i wedi bod yn hollol o ddifri, ac wedi cael fy mrifo go iawn ganddyn nhw.
14 Fyddi di Jerwsalem yn ddim byd ond tomen o adfeilion.
15 Byddi'n destun sbort i bawb sy'n pasio heibio. Bydd y gwledydd sydd o dy gwmpas wrth eu boddau yn enllibio ac yn cega pan fydda i'n dy farnu di ac yn dy gosbi mor ffyrnig. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!
16 Bydda i'n saethu saethau creulon newyn atoch chi, a'ch dinistrio chi. Fydd gynnoch chi ddim bwyd ar ôl.