2 Rwyt i losgi traean ohono yn y ddinas pan fydd y cyfnod o warchae symbolaidd drosodd. Yna cymryd traean arall a'i dorri'n ddarnau mân gyda'r cleddyf o gwmpas y ddinas. Yna taflu'r traean sydd ar ôl i'r gwynt ei chwalu i bobman. Dw i'n mynd i dynnu fy nghleddyf o'i wain, a mynd ar eu holau nhw!
3 Ond cymer rhyw ychydig bach o'r gwallt a'i gadw'n saff yn dy boced.
4 Byddi'n cymryd ychydig o hwnnw i'w losgi yn y tân. Bydd y tân hwnnw'n lledu ac yn dinistrio Israel i gyd.”
5 Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dyma Jerwsalem. Dw i wedi rhoi'r lle canolog iddi hi, gyda'r gwledydd eraill i gyd o'i chwmpas.
6 Ond mae pobl Jerwsalem wedi torri fy rheolau a gwrthod gwrando arna i, a gwneud mwy o ddrwg nag unrhyw wlad arall!”
7 Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud:“Dych chi'n achosi mwy o drafferth na'r gwledydd o'ch cwmpas chi i gyd! Dych chi wedi torri fy rheolau a gwrthod gwrando arna i. Allwch chi ddim hyd yn oed cadw safonau'r gwledydd paganaidd o'ch cwmpas chi!
8 Felly dw i'n mynd i ddelio gyda chi – ie, fi, yr ARGLWYDD. Dw i'n eich erbyn chi! Dw i'n mynd i'ch cosbi chi, a bydd y gwledydd i gyd yn cael gweld y peth.