11 Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:“Dangos mor ddig wyt ti trwy ysgwyd dy ddwrn a stampio dy draed, a gweiddi, ‘Gwae!’ o achos yr holl bethau ffiaidd mae pobl Israel wedi eu gwneud. Byddan nhw'n cael eu lladd gan gleddyf y gelyn, newyn, neu haint.”
12 Bydd pobl yn marw ym mhobman! Bydd y rhai sy'n bell i ffwrdd yn marw o afiechydon, y rhai sy'n agos yn cael eu lladd gan y gelyn, ac unrhyw un sydd ar ôl yn marw o newyn. Bydda i'n tywallt hynny o ddigofaint sydd gen i arnyn nhw!
13 Bydd eu cyrff marw yn gorwedd ym mhobman, am eu bod nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i'w heilunod. Bydd cyrff o gwmpas yr eilunod a'r allorau paganaidd, ar bob bryn uchel a mynydd, a dan pob coeden ddeiliog. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!
14 Dw i'n mynd i'w taro nhw'n galed. Fydd eu tir nhw yn ddim byd ond anialwch diffaith, yr holl ffordd o'r diffeithwch yn y de i Ribla yn y gogledd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD!