3 “Dywed, ‘Fynyddoedd Israel, gwrandwch ar neges y Meistr, yr ARGLWYDD! Dyma mae e'n ddweud wrth y mynyddoedd a'r bryniau, y ceunentydd a'r dyffrynnoedd: Dw i'n anfon byddin i ymosod arnoch chi, a dinistrio'ch allorau paganaidd lleol chi.
4 Fydd yr allorau'n ddim byd ond rwbel, a'r llestri i losgi arogldarth wedi eu malu'n ddarnau. Bydd pobl yn syrthio'n farw o flaen eich eilunod da i ddim.
5 Bydd cyrff meirw yn gorwedd o'u blaen, ac esgyrn pobl ym mhobman o gwmpas yr allorau.
6 Fydd dim dianc! Bydd eich trefi'n cael eu dinistrio'n llwyr, a'r allorau paganaidd yn ddim byd ond rwbel. Bydd yr eilunod wedi eu malu a'u bwrw i lawr, a'r llestri arogldarth yn ddarnau. Fydd dim byd o'ch gwaith llaw chi ar ôl!
7 Bydd cyrff marw ym mhobman! Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
8 “‘Ond bydda i'n gadael i rai ohonoch chi ddianc. Bydd y rheiny'n ffoaduriaid wedi eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd.
9 A byddan nhw'n cofio amdana i yno! Byddan nhw'n sylweddoli sut roedden nhw'n torri fy nghalon i wrth fod mor anffyddlon a dilyn pa dduw bynnag oedd yn cymryd eu ffansi. Bydd ganddyn nhw gymaint o gywilydd am eu bod wedi cymryd rhan mewn defodau mor ffiaidd.