1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i:
2 “Ddyn, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrth Israel: Mae'r diwedd yn dod! Mae'r diwedd yn dod ar y wlad gyfan!
3 Dw i wedi digio go iawn. Dw i'n mynd i'ch cosbi chi am y ffordd dych chi wedi ymddwyn. Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am yr holl bethau ffiaidd dych chi wedi eu gwneud.
4 Fydd yna ddim trugaredd i chi! Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am eich ymddygiad, a bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau y pethau ffiaidd wnaethoch chi. Byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
5 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae yna drychineb ofnadwy yn dod, un heb ei thebyg.
6 Mae'r diwedd yn dod! Mae'n dod go iawn! Mae hi ar ben arnoch chi!