12 Mae'n amser! Mae'r diwrnod wedi dod! Fydd y prynwr ddim yn dathlu, na'r gwerthwr yn drist. Mae Duw wedi digio gyda pawb.
13 Fydd y gwerthwr ddim yn cael yr eiddo'n ôl. Mae beth mae Duw wedi ei ddweud yn mynd i ddigwydd. Bydd pawb yn cael eu cosbi am eu pechod.
14 “Mae'r utgorn yn galw pawb i fod yn barod, ond does dim ymateb a does neb yn paratoi i ymladd. Mae fy nigofaint i wedi eu parlysu nhw.
15 Mae cleddyfau'r gelyn yn barod y tu allan i waliau'r ddinas. Mae haint a newyn yn disgwyl amdanyn nhw y tu mewn. Bydd pwy bynnag sydd yng nghefn gwlad yn cael ei ladd gan y cleddyf, a bydd pawb yn y ddinas yn marw o newyn a haint.
16 Bydd y rhai sy'n dianc yn rhedeg i'r mynyddoedd. Byddan nhw fel colomennod yn cŵan wrth alaru am eu pechodau.
17 Fydd pobl ddim yn gwybod beth i'w wneud, a byddan nhw'n gwlychu eu hunain mewn ofn.
18 Byddan nhw'n gwisgo sachliain, ac yn crynu mewn ofn. Bydd y cywilydd i'w weld ar eu hwynebau, a byddan nhw wedi siafio eu pennau.