17 Fydd pobl ddim yn gwybod beth i'w wneud, a byddan nhw'n gwlychu eu hunain mewn ofn.
18 Byddan nhw'n gwisgo sachliain, ac yn crynu mewn ofn. Bydd y cywilydd i'w weld ar eu hwynebau, a byddan nhw wedi siafio eu pennau.
19 “Fydd aur ac arian yn golygu dim iddyn nhw. Bydd fel sbwriel ar y stryd. Fydd eu cyfoeth ddim yn eu hachub nhw ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu! A fyddan nhw ddim yn gallu prynu bwyd gydag e. Eu harian nhw wnaeth eu baglu nhw a'u harwain nhw i bechu!
20 Roedden nhw wedi defnyddio eu tlysau hardd i wneud delwau ffiaidd – duwiau da i ddim. Ond bydd y cwbl fel sbwriel afiach.
21 Bydda i'n ei roi yn ysbail i bobl o wledydd eraill. Bydd paganiaid drwg yn ei gymryd ac yn poeri arno.
22 Bydda i'n edrych i ffwrdd tra maen nhw'n treisio fy nheml i. Bydd fandaliaid yn dod i mewn i'r ddinas, yn ei threisio
23 ac yn creu hafoc llwyr. (Bydd hyn i gyd yn digwydd o achos y tywallt gwaed ofnadwy sy'n y wlad a'r creulondeb sydd yn y ddinas.)