5 “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae yna drychineb ofnadwy yn dod, un heb ei thebyg.
6 Mae'r diwedd yn dod! Mae'n dod go iawn! Mae hi ar ben arnoch chi!
7 Mae'r farn yn dod ar bawb sy'n byw yn y wlad yma! Mae hi ar ben! Mae'r diwrnod mawr yn agos! Bydd sŵn pobl yn gweiddi mewn panig ar y mynyddoedd yn lle sŵn pobl yn dathlu ac yn cael hwyl.
8 Dw i'n mynd i dywallt fy llid arnoch chi nawr. Cewch weld gymaint dw i wedi gwylltio. Dw i'n mynd i'ch cosbi chi am y ffordd dych chi wedi ymddwyn. Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am yr holl bethau ffiaidd dych chi wedi eu gwneud.
9 Fydd yna ddim trugaredd! Dw i'n mynd i'ch galw chi i gyfri am eich ymddygiad, a bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau y pethau ffiaidd wnaethoch chi. Byddwch chi'n deall wedyn mai fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi'ch taro chi.
10 “Edrychwch! Y diwrnod mawr! Mae'r farn ar ei ffordd! Mae anghyfiawnder a drygioni wedi blodeuo!
11 Mae trais wedi troi'n wialen i gosbi drygioni. Fydd neb ar ôl – neb o'r werin, neb o'r cyfoethog, neb o'r pwysigion.