26 Wedyn roedd Pagiel fab Ochran yn arwain llwyth Asher,
27 ac Achira fab Enan yn arwain llwyth Nafftali.
28 Dyna'r drefn aeth pobl Israel allan, adran wrth adran. A dyma nhw'n teithio yn eu blaenau.
29 Dyma Moses yn dweud wrth Chobab (mab i Reuel o Midian, tad-yng-nghyfraith Moses), “Dŷn ni ar ein ffordd i'r wlad mae'r ARGLWYDD wedi addo ei rhoi i ni. Tyrd gyda ni. Byddwn ni'n dy drin di'n dda. Mae'r ARGLWYDD wedi addo pethau gwych i bobl Israel.”
30 Ond atebodd Chobab, “Na, dw i ddim am ddod. Dw i am fynd adre i'm gwlad, at fy mhobl fy hun.”
31 “Paid gadael ni,” meddai Moses, “Gelli di ein tywys ni drwy'r anialwch. Ti'n gwybod am y lleoedd gorau i wersylla.
32 Os doi di, byddi di'n cael rhannu'r holl bethau da sydd gan yr ARGLWYDD ar ein cyfer ni.”