29 Dyma Moses yn dweud wrth Chobab (mab i Reuel o Midian, tad-yng-nghyfraith Moses), “Dŷn ni ar ein ffordd i'r wlad mae'r ARGLWYDD wedi addo ei rhoi i ni. Tyrd gyda ni. Byddwn ni'n dy drin di'n dda. Mae'r ARGLWYDD wedi addo pethau gwych i bobl Israel.”