22 Gofynasant eto i'r ARGLWYDD, “A ddaeth y gŵr yma?” A dywedodd yr ARGLWYDD, “Do, y mae'n cuddio ymysg yr offer.”
23 Wedi iddynt redeg a'i gymryd oddi yno a'i osod i sefyll yng nghanol y bobl, yr oedd yn dalach na phawb, o'i ysgwyddau i fyny.
24 Dywedodd Samuel, “A welwch chwi'r un a ddewisodd yr ARGLWYDD? Yn wir nid oes neb o'r holl bobl yn debyg iddo.” Bloeddiodd yr holl bobl a dweud, “Hir oes i'r brenin!”
25 Yna mynegodd Samuel wrth y bobl ddull y frenhiniaeth, a'i ysgrifennu mewn llyfr a'i osod ynghadw gerbron yr ARGLWYDD; yna gollyngodd yr holl bobl, i bob un fynd adref.
26 Aeth Saul yntau adref i Gibea, ac aeth gydag ef fyddin o rai y cyffyrddodd Duw â'u calon.
27 Ond meddai'r dihirod, “Sut y gall hwn ein hachub?” Yr oeddent yn ei ddirmygu, ac ni ddaethant ag anrheg iddo.