1 Samuel 12 BCN

Neges Ffarwel Samuel

1 Dywedodd Samuel wrth holl Israel, “Edrychwch, yr wyf wedi gwrando ar bopeth a ddywedasoch wrthyf, a gosod brenin arnoch.

2 Yn awr, dyma'r brenin fydd yn eich arwain. Yr wyf fi'n hen a phenwyn, ac y mae fy meibion gyda chwi. Bûm yn eich arwain, o'm hieuenctid hyd heddiw.

3 Dyma fi; tystiwch yn f'erbyn gerbron yr ARGLWYDD a'i eneiniog: a gymerais ych unrhyw un? A gymerais asyn unrhyw un? A dwyllais rywun? A orthrymais rywun? A dderbyniais gildwrn oddi wrth rywun i gau fy llygaid? Dewch â thystiolaeth, ac fe'i rhoddaf yn ôl.”

4 Ond dywedasant, “Nid wyt ti wedi'n twyllo na'n gorthrymu, nac wedi cymryd dim gan neb.”

5 Yna dywedodd wrthynt, “Y mae'r ARGLWYDD yn dyst yn eich erbyn heddiw, a'i eneiniog hefyd, na chawsoch un dim yn fy meddiant.” “Ydyw, y mae'n dyst,” meddai'r bobl.

6 Dywedodd Samuel, “Y tyst yw yr ARGLWYDD, a gododd Moses ac Aaron, ac a ddygodd eich hynafiaid i fyny o wlad yr Aifft;

7 felly safwch mewn trefn er mwyn imi ymresymu â chwi gerbron yr ARGLWYDD, ynglŷn â'r holl weithredoedd achubol a wnaeth yr ARGLWYDD drosoch chwi a'ch hynafiaid.

8 Wedi i Jacob ddod i lawr i'r Aifft, gwaeddodd eich hynafiaid ar yr ARGLWYDD; anfonodd yntau Moses ac Aaron, a daethant hwy â'ch hynafiaid allan o'r Aifft a'u rhoi i fyw yn y lle hwn.

9 Ond oherwydd iddynt anghofio'r ARGLWYDD eu Duw, gwerthodd hwy i law Sisera, pennaeth byddin Hasor, ac i'r Philistiaid, ac i frenin Moab; a bu'r rhain yn rhyfela yn eu herbyn.

10 Yna bu iddynt weiddi ar yr ARGLWYDD a dweud, ‘Yr ydym ar fai am inni gefnu ar yr ARGLWYDD ac addoli'r Baalim a'r Astaroth; ond yn awr, achub ni o law ein gelynion, ac fe'th addolwn di.’

11 Anfonodd yr ARGLWYDD Jerwbbaal, Bedan, Jefftha a Samuel, a gwaredodd chwi o law y gelynion o'ch cwmpas, a chawsoch fyw'n ddiogel.

12 Ond pan welsoch Nahas brenin yr Ammoniaid yn dod yn eich erbyn, dywedasoch wrthyf, ‘Na, rhaid cael brenin i deyrnasu arnom’, er bod yr ARGLWYDD eich Duw yn frenin arnoch.

13 Yn awr, dyma'r brenin yr ydych wedi ei ddewis a gofyn amdano; ydyw, y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi brenin i chwi.

14 Os byddwch yn ofni'r ARGLWYDD, ac yn ei addoli ef ac yn ufuddhau iddo heb wrthryfela yn erbyn ei orchymyn, ac os byddwch chwi a'r brenin a osodir arnoch yn dilyn yr ARGLWYDD eich Duw, popeth yn dda.

15 Ond os na wrandewch ar yr ARGLWYDD, ond gwrthryfela yn erbyn ei orchymyn, yna bydd llaw yr ARGLWYDD yn eich erbyn chwi a'ch brenin i'ch difa.

16 Yn awr, safwch yma a gwelwch y peth mawr hwn y mae'r ARGLWYDD yn ei wneud o flaen eich llygaid.

17 Onid yw'n adeg y cynhaeaf gwenith? Galwaf ar yr ARGLWYDD i anfon taranau a glaw, a chewch weld a gwybod eich bod wedi cyflawni trosedd mawr yng ngolwg yr ARGLWYDD drwy ofyn am frenin.”

18 Yna galwodd Samuel ar yr ARGLWYDD, ac anfonodd yr ARGLWYDD daranau a glaw y diwrnod hwnnw, ac ofnodd yr holl bobl yr ARGLWYDD a Samuel.

19 Dywedodd yr holl bobl wrth Samuel, “Gweddïa ar yr ARGLWYDD dy Dduw ar ein rhan, rhag inni farw, oherwydd yr ydym wedi ychwanegu at ein holl bechodau y drwg hwn o geisio inni frenin.”

20 Dywedodd Samuel wrth y bobl, “Peidiwch ag ofni, er i chwi wneud yr holl ddrwg hwn; peidiwch â throi i ffwrdd oddi wrth yr ARGLWYDD; addolwch yr ARGLWYDD â'ch holl galon.

21 Peidiwch â throi at wagedd eilunod na fedrant gynorthwyo na gwaredu am mai gwagedd ydynt.

22 Er mwyn ei enw mawr ni fydd yr ARGLWYDD yn gwrthod ei bobl; oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn dymuno'ch gwneud yn bobl iddo.

23 A phell y bo oddi wrthyf finnau bechu yn erbyn yr ARGLWYDD trwy roi'r gorau i weddïo drosoch a'ch hyfforddi yn y ffordd dda ac uniawn.

24 Yn unig ofnwch yr ARGLWYDD, a gwasanaethwch ef mewn gwirionedd ac â'ch holl galon. Ystyriwch y pethau mawr a wnaeth drosoch.

25 Ond os parhewch i wneud drwg, ysgubir chwi a'ch brenin i ffwrdd.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31