1 Samuel 22 BCN

Lladd Offeiriaid Nob

1 Dihangodd Dafydd oddi yno i ogof Adulam, a phan glywodd ei frodyr a'i deulu, aethant yno ato.

2 A dyma bawb oedd mewn helbul neu ddyled, neu wedi chwerwi, yn ymgasglu ato. Aeth ef yn ben arnynt, ac yr oedd tua phedwar cant ohonynt gydag ef.

3 Oddi yno aeth Dafydd i Mispe yn Moab, a dweud wrth frenin Moab, “Gad i'm tad a'm mam ddod atat, nes y byddaf yn gwybod beth a wna Duw imi.”

4 Felly gadawodd hwy gyda brenin Moab, a buont yn aros yno cyhyd ag y bu Dafydd yn ei loches.

5 Yna dywedodd y proffwyd Gad wrth Ddafydd, “Paid ag aros yn y lloches, dos yn ôl i dir Jwda.” Felly aeth Dafydd i Goed Hereth.

6 Clywodd Saul fod Dafydd a'r gwŷr oedd gydag ef wedi dod i'r golwg, ac yr oedd yntau ar y pryd yn Gibea, yn eistedd dan bren tamarisg ar y bryn â'i waywffon yn ei law, a'i weision yn sefyll o'i gwmpas.

7 Ac meddai Saul wrth y gweision o'i gwmpas, “Gwrandewch hyn, dylwyth Benjamin. A fydd mab Jesse yn rhoi i bob un ohonoch chwi feysydd a gwinllannoedd, a'ch gwneud i gyd yn swyddogion ar filoedd a channoedd?

8 Er hynny yr ydych i gyd yn cynllwyn yn f'erbyn. Nid ynganodd neb air wrthyf pan wnaeth fy mab gyfamod â mab Jesse. Nid oedd neb ohonoch yn poeni amdanaf fi, nac yn yngan gair wrthyf pan barodd fy mab i'm gwas godi cynllwyn yn f'erbyn fel y gwna heddiw.”

9 Yna atebodd Doeg yr Edomiad, a oedd yn sefyll gyda gweision Saul, a dweud, “Mi welais i fab Jesse'n dod i Nob at Ahimelech fab Ahitub.

10 Ymofynnodd yntau â'r ARGLWYDD drosto, a rhoi bwyd iddo; rhoes iddo hefyd gleddyf Goliath y Philistiad.”

11 Anfonodd y brenin am yr offeiriad Ahimelech fab Ahitub a'i deulu i gyd, a oedd yn offeiriaid yn Nob, a daethant oll at y brenin.

12 Ac meddai Saul, “Gwrando di yn awr, fab Ahitub.” Atebodd yntau, “Gwnaf, f'arglwydd.”

13 Yna dywedodd Saul wrtho, “Pam yr ydych wedi cynllwyn yn f'erbyn, ti a mab Jesse, a thithau'n rhoi bwyd a chleddyf iddo, yn ymofyn â Duw drosto, ac yn gadael iddo gynllwyn yn f'erbyn, fel y mae'n gwneud heddiw?”

14 Atebodd Ahimelech y brenin a dweud, “Pwy o blith dy holl weision sydd mor deyrngar â Dafydd, yn fab-yng-nghyfraith i'r brenin, ac yn bennaeth dy osgorddlu ac yn uchel ei barch yn dy blas?

15 Ai dyna'r tro cyntaf imi ymofyn â Duw drosto? Nage'n wir! Peidied y brenin â chyhuddo ei was, na'r un o'i deulu, oherwydd ni ŵyr dy was ddim am hyn, na bach na mawr.”

16 Dywedodd y brenin, “Yr wyt ti, Ahimelech, yn mynd i farw, ie, ti a'th holl deulu.”

17 Yna dywedodd y brenin wrth y gosgorddlu oedd yn sefyll yn ei ymyl, “Trowch arnynt a lladdwch offeiriaid yr ARGLWYDD, oherwydd y maent hwythau law yn llaw â Dafydd, am eu bod yn gwybod ei fod ar ffo, ond heb yngan gair wrthyf.” Ond ni fynnai gweision y brenin estyn llaw i daro offeiriaid yr ARGLWYDD.

18 Yna dywedodd y brenin wrth Doeg, “Tro di a tharo'r offeiriaid.” Fe droes Doeg a tharo'r offeiriaid; a'r diwrnod hwnnw fe laddodd bump a phedwar ugain o wŷr yn gwisgo effod liain.

19 Yn Nob hefyd, tref yr offeiriaid, trawodd â'r cleddyf wŷr a gwragedd, plant a babanod, a hyd yn oed ychen, asynnod a defaid.

20 Ond dihangodd un mab i Ahimelech fab Ahitub, o'r enw Abiathar; a ffodd at Ddafydd,

21 a dweud wrtho fod Saul wedi lladd offeiriaid yr ARGLWYDD.

22 Dywedodd Dafydd wrth Abiathar, “Mi wyddwn i y diwrnod hwnnw pan oedd Doeg yr Edomiad yno, y byddai'n sicr o ddweud wrth Saul. Myfi sy'n gyfrifol am farwolaeth dy deulu cyfan.

23 Aros gyda mi, paid ag ofni; oherwydd yr un sy'n ceisio d'einioes di sy'n ceisio f'einioes innau. Byddi'n ddiogel gyda mi.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31