1 Samuel 30 BCN

Rhyfel yn erbyn yr Amaleciaid

1 Pan gyrhaeddodd Dafydd a'i filwyr yn ôl i Siclag ymhen tridiau, yr oedd yr Amaleciaid wedi gwneud cyrch ar y Negef ac ar Siclag, ac wedi ymosod ar Siclag a'i llosgi.

2 Yr oeddent wedi cymryd yn gaeth y gwragedd oedd yno, yn ifanc a hen; nid oeddent wedi lladd neb, ond mynd â hwy i'w canlyn wrth ymadael.

3 Pan gyrhaeddodd Dafydd a'i ddynion, yr oedd y dref wedi ei llosgi â thân, a'u gwragedd, eu meibion a'u merched wedi mynd i gaethiwed.

4 Torrodd Dafydd a'i ddynion allan i wylo'n uchel, nes eu bod yn rhy wan i wylo rhagor.

5 Yr oedd dwy wraig Dafydd wedi eu caethgludo, sef Ahinoam o Jesreel ac Abigail o Garmel, gwraig Nabal.

6 Aeth yn gyfyng iawn ar Ddafydd, oherwydd bod y bobl yn bygwth ei labyddio am fod ysbryd pob un o'r bobl yn chwerw o achos ei feibion a'i ferched ei hun; ond cafodd Dafydd nerth gan yr ARGLWYDD ei Dduw.

7 Dywedodd Dafydd wrth yr offeiriad Abiathar fab Ahimelech, “Tyrd â'r effod yma i mi.” Wedi i Abiathar ddod â'r effod at Ddafydd,

8 ymofynnodd Dafydd â'r ARGLWYDD, a gofyn, “Os af ar ôl y fintai hon, a ddaliaf hwy?” Atebodd ef, “Dos ar eu hôl; yr wyt yn sicr o'u dal a sicrhau gwaredigaeth.”

9 Cychwynnodd Dafydd a'r chwe chant o filwyr oedd gydag ef, a dod i nant Besor, lle'r arhosodd rhai.

10 Aeth Dafydd a phedwar cant ohonynt yn eu blaen, ond arhosodd dau gant ar ôl am eu bod yn rhy flinedig i groesi nant Besor.

11 Daethant ar draws rhyw Eifftiwr allan yn y wlad, ac wedi dod ag ef at Ddafydd, rhoesant iddo fwyd i'w fwyta a dŵr i'w yfed.

12 Wedi iddynt roi iddo deisen ffigys a dau swp o rawnwin i'w bwyta, daeth ato'i hun, oherwydd nid oedd wedi bwyta tamaid nac yfed diferyn ers tri diwrnod a thair noson.

13 Gofynnodd Dafydd iddo, “I bwy yr wyt ti'n perthyn, ac o ble'r wyt ti'n dod?” Atebodd, “Llanc o'r Aifft wyf fi, caethwas i Amaleciad; ond gadawodd fy meistr fi ar ôl am fy mod wedi mynd yn glaf dridiau'n ôl,

14 pan oeddem wedi gwneud cyrch yn erbyn Negef y Cerethiaid a'r Jwdeaid, a Negef Caleb, a rhoi Siclag ar dân.”

15 Yna gofynnodd Dafydd iddo, “A ei di â mi at y fintai hon?” Ac meddai yntau, “Tynga imi yn enw Duw na wnei di fy lladd na'm rhoi yng ngafael fy meistr, ac mi af â thi at y fintai hon.”

16 Aeth â hwy, a dyna lle'r oeddent, ar wasgar dros wyneb yr holl dir, yn bwyta, yn yfed ac yn dawnsio o achos yr holl ysbail fawr a gymerwyd ganddynt o wlad y Philistiaid ac o Jwda.

17 Trawodd Dafydd hwy o'r cyfnos hyd nos drannoeth, heb i neb ohonynt ddianc, ar wahân i bedwar cant o lanciau a ffodd ar gefn camelod.

18 Achubodd Dafydd y cwbl yr oedd yr Amaleciaid wedi ei gymryd, ac achub ei ddwy wraig hefyd.

19 Nid oedd yr un ohonynt ar goll, o'r hynaf i'r ieuengaf, na bechgyn na genethod, nac ychwaith ddim o'r ysbail a gymerwyd gan yr Amaleciaid; cafodd Dafydd y cwbl yn ôl.

20 Wedi i Ddafydd adennill yr holl ddefaid ac ychen, gyrasant rai o flaen y lleill a dweud, “Ysbail Dafydd yw hyn.”

21 Daeth Dafydd at y ddau gant o ddynion oedd yn rhy flinedig i'w ganlyn, ac a oedd wedi eu gadael wrth nant Besor. Daethant hwythau allan i gyfarfod Dafydd a'r bobl oedd gydag ef; a phan ddaeth Dafydd yn ddigon agos, cyfarchodd hwy.

22 Ond dyma'r dynion drwg a'r dihirod oedd ymysg y dynion a aeth gyda Dafydd yn dweud, “Gan na ddaethant hwy gyda ni, ni rown iddynt ddim o'r ysbail a achubwyd gennym; yn unig fe gaiff pob un gymryd ei wraig a'i blant a mynd ymaith.”

23 Ond dywedodd Dafydd, “Gymrodyr, nid felly y gwnewch â'r hyn a roddodd yr ARGLWYDD i ni; fe'n cadwodd ni, a rhoi'r fintai a ymosododd arnom yn ein gafael.

24 Pwy a fyddai'n cytuno â chwi yn hyn o beth? Na, yr un fydd rhan y sawl sy'n mynd i'r frwydr â rhan y sawl sy'n aros gyda'r offer; y maent i rannu ar y cyd.”

25 Ac felly y bu, o'r diwrnod hwnnw ymlaen; a daeth hyn yn rheol ac yn arfer yn Israel hyd heddiw.

26 Wedi i Ddafydd ddychwelyd i Siclag, anfonodd beth o'r ysbail i henuriaid Jwda ac i'w gyfeillion, a dweud, “Dyma rodd i chwi o ysbail gelynion yr ARGLWYDD.”

27 Fe'i hanfonwyd i'r rhai oedd ym Methel, Ramoth-negef, Jattir,

28 Aroer, Siffmoth, Estemoa,

29 Rachal, trefi'r Jerahmeeliaid a'r Ceneaid,

30 Horma, Borasan, Athac,

31 Hebron, a'r holl fannau y byddai Dafydd a'i filwyr yn eu mynychu.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31