1 Samuel 5 BCN

Arch y Cyfamod yng Ngwlad y Philistiaid

1 Wedi i'r Philistiaid gipio arch Duw, dygwyd hi o Ebeneser i Asdod;

2 yno dygodd y Philistiaid hi i deml Dagon, a'i gosod wrth ochr Dagon.

3 Pan gododd yr Asdodiaid fore trannoeth, gwelsant Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD.

4 Yna codasant Dagon, a'i roi'n ôl yn ei le. Bore trannoeth, wedi iddynt godi, gwelsant Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD, a phen a dwy law Dagon ar y trothwy wedi eu torri i ffwrdd, a dim ond corff Dagon ar ôl ganddo.

5 Dyna pam nad yw offeiriaid Dagon, na neb sy'n dod i'w deml, yn sangu ar drothwy Dagon yn Asdod hyd y dydd hwn.

6 Bu llaw'r ARGLWYDD yn drwm ar yr Asdodiaid. Parodd arswyd ar Asdod a'i chyffiniau, a'u taro â chornwydydd.

7 Pan welodd gwŷr Asdod mai felly'r oedd, dywedasant, “Ni chaiff arch Duw Israel aros gyda ni, oherwydd y mae ei law yn drwm arnom ni ac ar ein duw Dagon.”

8 Wedi iddynt anfon a chasglu atynt holl arglwyddi'r Philistiaid, gofynasant, “Beth a wnawn ag arch Duw Israel?” Atebasant hwythau, “Aed arch Duw Israel draw i Gath.” Felly aethant ag arch Duw Israel yno.

9 Ond wedi iddynt fynd â hi yno, bu llaw'r ARGLWYDD ar y ddinas a pheri difrod mawr iawn, trawyd pobl y ddinas yn hen ac ifainc, a thorrodd y cornwydydd allan arnynt hwythau.

10 Anfonasant arch Duw i Ecron, ond pan gyrhaeddodd yno, cwynodd pobl Ecron, “Y maent wedi dod ag arch Duw Israel atom ni i'n lladd ni a'n teuluoedd.”

11 Felly anfonasant i gasglu ynghyd holl arglwyddi'r Philistiaid a dweud, “Anfonwch arch Duw Israel yn ôl i'w lle ei hun, rhag iddi'n lladd ni a'n teuluoedd.”

12 Yr oedd ofn angau drwy'r holl ddinas am fod llaw Duw mor drwm yno, a hyd yn oed y rhai a arbedwyd rhag marwolaeth wedi eu taro â'r cornwydydd; ac esgynnai gwaedd y ddinas i'r entrychion.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31