1 Samuel 6 BCN

Dychwelyd Arch y Cyfamod

1 Wedi i arch yr ARGLWYDD fod yn Philistia saith mis,

2 galwodd y Philistiaid ar yr offeiriaid a'r dewiniaid a gofyn, “Beth a wnawn ni ag arch yr ARGLWYDD? Dywedwch wrthym sut yr anfonwn hi'n ôl i'w lle.”

3 Atebasant, “Os ydych yn anfon arch Duw Israel yn ôl, peidiwch â'i hanfon heb rodd, gofalwch anfon gyda hi offrwm dros gamwedd; yna cewch eich iacháu a darganfod pam na symudwyd ei law oddi arnoch.”

4 Pan ofynnwyd pa offrwm dros gamwedd a roddent iddo, dywedasant, “Pum cornwyd aur a phum llygoden aur, yn ôl nifer arglwyddi'r Philistiaid, oherwydd yr un pla a fu ar bawb ohonoch chwi a'ch arglwyddi.

5 Gwnewch fodelau o'ch cornwydydd, a'r llygod sy'n difa'r wlad, a rhowch ogoniant i Dduw Israel; efallai y bydd yn ysgafnhau ei law oddi arnoch chwi a'ch duw a'ch gwlad.

6 Pa les ystyfnigo fel y gwnaeth Pharo a'r Aifft? Wedi iddo ef eu trin fel y mynnai, oni fu raid iddynt ollwng Israel ymaith?

7 Yn awr, paratowch fen newydd a chymryd dwy fuwch flith heb fod dan iau; rhwymwch y buchod wrth y fen a chadw eu lloi i mewn rhag iddynt eu dilyn.

8 Yna cymerwch arch yr ARGLWYDD a'i rhoi ar y fen, ac mewn cist wrth ei hochr rhowch y pethau aur yr ydych yn eu hanfon iddo yn offrwm dros gamwedd; a gadewch i'r arch fynd.

9 Yna cewch weld; os â i fyny am Beth-semes i gyfeiriad ei chynefin, ef sydd wedi achosi'r drwg mawr hwn i ni; ond os nad â, byddwn yn gwybod nad ei law ef a'n trawodd, ond mai cyd-ddigwyddiad oedd hyn.”

10 Dyna a wnaeth y dynion, cymryd dwy fuwch fagu a'u rhwymo wrth fen a chadw eu lloi mewn cwt.

11 Rhoesant arch yr ARGLWYDD ar y fen, gyda'r gist a'r llygod aur a'r modelau o'u cornwydydd.

12 Cerddodd y buchod ar eu hunion ar y ffordd i gyfeiriad Beth-semes, gan frefu wrth fynd, ond yn cadw i'r un briffordd heb wyro i'r dde na'r chwith; a cherddodd arglwyddi'r Philistiaid ar eu hôl hyd at derfyn Beth-semes.

13 Yr oedd pobl Beth-semes yn medi eu cynhaeaf gwenith yn y dyffryn, a phan godasant eu llygaid a gweld yr arch, yr oeddent yn llawen o'i gweld.

14 Daeth y fen i faes Josua, gŵr o Beth-semes, a sefyll yno yn ymyl carreg fawr, ac wedi iddynt ddarnio coed y fen, offrymasant y buchod yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD.

15 Yna tynnodd y Lefiaid i lawr arch yr ARGLWYDD, a'r gist oedd gyda hi yn cynnwys y pethau aur, a'u rhoi ar y garreg fawr; a'r dydd hwnnw offrymodd gwŷr Beth-semes boethoffrymau ac ebyrth i'r ARGLWYDD.

16 Ac wedi i bum arglwydd y Philistiaid weld, aethant yn ôl i Ecron yr un diwrnod.

17 Dyma restr y cornwydydd aur a anfonodd y Philistiaid i'r ARGLWYDD yn offrwm dros gamwedd: un dros Asdod, un dros Gasa, un dros Ascalon, un dros Gath ac un dros Ecron.

18 Hefyd llygod aur yn ôl nifer holl ddinasoedd y Philistiaid a oedd dan y pum arglwydd, yn ddinas gaerog neu'n bentref agored. Saif y garreg fawr y gosodwyd arni arch yr ARGLWYDD yn dyst hyd y dydd hwn ym maes Josua o Beth-semes.

Arch y Cyfamod yn Ciriath-Jearim

19 Trawyd rhai o wŷr Beth-semes am iddynt edrych i mewn i arch yr ARGLWYDD. Trawyd deg a thrigain ohonynt, a galarodd y bobl oherwydd bod yr ARGLWYDD wedi gwneud lladdfa mor fawr yn eu plith.

20 A dywedodd gwŷr Beth-semes, “Pwy a fedr sefyll o flaen yr ARGLWYDD, y Duw sanctaidd hwn? At bwy yr â oddi wrthym ni?”

21 Anfonasant negeswyr at drigolion Ciriath-jearim a dweud, “Anfonodd y Philistiaid arch yr ARGLWYDD yn ôl, dewch i lawr i'w chyrchu.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31