1 Samuel 21 BCN

Dafydd yn Ffoi rhag Saul

1 Aeth Dafydd i Nob at yr offeiriad Ahimelech. Daeth yntau i'w gyfarfod dan grynu, a gofyn iddo, “Pam yr wyt ti ar dy ben dy hun, heb neb gyda thi?”

2 Ac meddai Dafydd wrth yr offeiriad Ahimelech, “Y brenin sydd wedi rhoi gorchymyn imi, a dweud wrthyf, ‘Nid yw neb i wybod dim pam yr anfonais di, na beth a orchmynnais iti.’ Ac yr wyf wedi rhoi cyfarwyddyd i'r milwyr ifainc i'm cyfarfod yn y fan a'r fan.

3 Yn awr, beth sydd gennyt wrth law? Gad imi gael pum torth, neu'r hyn sydd gennyt.”

4 Atebodd yr offeiriad, “Nid oes gennyf ddim bara cyffredin wrth law; ond y mae yma fara cysegredig—os yw'r milwyr wedi ymgadw'n llwyr oddi wrth wragedd.”

5 Atebodd Dafydd, “Yn wir y mae'n hen arfer gennym ymgadw oddi wrth wragedd pan fyddaf yn cychwyn ar ymgyrch, fel bod arfau'r milwyr yn gysegredig; ac os yw felly ar siwrnai gyffredin, pa faint mwy y bydd yr arfau'n gysegredig heddiw?”

6 Yna fe roddodd yr offeiriad iddo'r bara cysegredig, gan nad oedd yno ddim ond y bara gosod oedd wedi ei symud o bresenoldeb yr ARGLWYDD, er mwyn gosod bara ffres ar ddiwrnod y cyfnewid.

7 Ar y pryd, yr oedd un o weision Saul yno dan adduned gerbron yr ARGLWYDD; ei enw oedd Doeg yr Edomiad, ac ef oedd penbugail Saul.

8 Gofynnodd Dafydd i Ahimelech, “Onid oes yma waywffon neu gleddyf wrth law gennyt? Oherwydd ni ddeuthum â'm cleddyf na'm harfau gyda mi, am fod cymaint brys gyda gorchymyn y brenin.”

9 Atebodd yr offeiriad, “Beth am gleddyf Goliath y Philistiad, y dyn a leddaist yn nyffryn Ela? Y mae hwnnw yma wedi ei lapio mewn brethyn y tu ôl i'r effod. Os wyt ti am hwnnw, cymer ef, oherwydd nid oes yma yr un arall ond hwnnw.”

10 Ac meddai Dafydd, “Nid oes debyg iddo; rho ef imi.” Y diwrnod hwnnw ymadawodd Dafydd, ac er mwyn ffoi oddi wrth Saul, aeth at Achis brenin Gath.

11 Gofynnodd gweision Achis iddo, “Onid hwn yw Dafydd, brenin y wlad? Onid am hwn y maent yn canu wrth ddawnsio,“ ‘Lladdodd Saul ei filoedd,a Dafydd ei fyrddiynau’?”

12 Cymerodd Dafydd y geiriau hyn at ei galon, ac ofnodd rhag Achis brenin Gath.

13 Newidiodd ei ymddygiad o'u blaen, a dechrau ymddwyn fel ynfytyn yn eu mysg, a chripio drysau'r porth, a glafoerio hyd ei farf.

14 Ac meddai Achis wrth ei weision, “Gallwch weld bod y dyn yn wallgof; pam y daethoch ag ef ataf fi?

15 A wyf yn brin o ynfydion, fel eich bod yn dod â hwn o'm blaen i ynfydu? A ddaw hwn i'm tŷ?”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31