1 Samuel 19 BCN

Saul yn Erlid Dafydd

1 Dywedodd Saul wrth ei fab Jonathan a'i holl weision am ladd Dafydd.

2 Ond yr oedd Jonathan fab Saul wedi mynd yn hoff iawn o Ddafydd, a dywedodd wrtho, “Y mae fy nhad Saul yn ceisio dy ladd di; bydd di'n ofalus ohonot dy hun bore yfory, ac ymguddia ac aros o'r golwg.

3 Mi af finnau a sefyll yn ymyl fy nhad, allan yn ymyl y lle y byddi di, ac mi soniaf amdanat wrth fy nhad; ac os gwelaf unrhyw beth, mi ddywedaf wrthyt.”

4 Siaradodd Jonathan o blaid Dafydd wrth ei dad Saul, a dweud wrtho, “Peidied y brenin â gwneud cam â'i was Dafydd, oherwydd ni wnaeth ef gam â thi; yn wir, bu ei weithredoedd o les mawr iti.

5 Mentrodd ei fywyd i ladd y Philistiad hwnnw, a rhoddodd yr ARGLWYDD fuddugoliaeth fawr i Israel gyfan. Yr oeddit tithau'n gweld ac yn llawenychu; pam ynteu yr wyt am wneud cam ag un dieuog, a lladd Dafydd heb achos?”

6 Gwrandawodd Saul ar ble Jonathan a thyngodd: “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff ei ladd.”

7 Wedi i Jonathan alw Dafydd, a dweud hyn i gyd wrtho, aeth ag ef at Saul; a bu Dafydd yn ei wasanaethu fel cynt.

8 A phan dorrodd rhyfel allan eto, aeth Dafydd i ymladd yn erbyn y Philistiaid a gwneud difrod mawr arnynt, a hwythau'n ffoi o'i flaen.

9 Daeth ysbryd drwg oddi wrth yr ARGLWYDD ar Saul ac yntau'n eistedd gartref â gwaywffon yn ei law, a Dafydd yn canu'r delyn.

10 Ceisiodd Saul drywanu'r waywffon trwy Ddafydd i'r pared, ond osgôdd Dafydd ef, ac i'r pared y trawodd y waywffon; felly dihangodd Dafydd a ffoi.

11 Y noson honno anfonodd Saul negeswyr i gartref Dafydd i'w wylio er mwyn ei ladd yn y bore. Ond yr oedd Michal gwraig Dafydd wedi dweud wrtho, “Os na fyddi'n dianc heno am d'einioes, yfory byddi'n farw.”

12 Felly, wedi i Michal ollwng Dafydd i lawr drwy'r ffenestr, aeth yntau ar ffo a dianc.

13 Yna cymerodd Michal y teraffim a'u gosod yn y gwely, a rhoi clustog o flew geifr lle byddai'r pen, a thaenu dilledyn drosti.

14 Pan anfonodd Saul negeswyr i ddal Dafydd, dywedodd hi, “Y mae'n glaf.”

15 Ond anfonodd Saul y negeswyr yn ôl i chwilio am Ddafydd gyda'r gorchymyn, “Dewch ag ef ataf yn ei wely, imi ei ladd.”

16 Pan ddaeth y negeswyr, dyna lle'r oedd y teraffim yn y gwely, gyda chlustog o flew geifr wrth y pen.

17 Meddai Saul wrth Michal, “Pam y twyllaist fi fel hyn, a gollwng fy ngelyn yn rhydd i ddianc?” Atebodd Michal, “Ef a ddywedodd wrthyf, ‘Gollwng fi, neu mi'th laddaf.’ ”

18 Ffodd Dafydd a dianc i Rama at Samuel, ac adrodd wrtho'r cwbl a wnaeth Saul iddo. Yna aeth Samuel ac yntau, ac aros yn Naioth.

19 Mynegwyd i Saul, “Y mae Dafydd yn Naioth ger Rama.”

20 Anfonodd Saul negeswyr i ddal Dafydd, ond pan welsant dwr o broffwydi'n proffwydo, a Samuel yn sefyll yno'n bennaeth arnynt, disgynnodd ysbryd Duw arnynt ac aethant hwythau i broffwydo.

21 Pan fynegwyd hyn i Saul, anfonodd negeswyr eraill, ond aethant hwythau i broffwydo hefyd; a phan anfonodd Saul negeswyr am y trydydd tro, aeth y rheini hefyd i broffwydo.

22 Yna fe aeth ef ei hun i Rama, ac wedi iddo gyrraedd y pydew mawr yn Secu a holi ple'r oedd Samuel a Dafydd, dywedodd rhywun eu bod yn Naioth ger Rama.

23 Wrth iddo fynd yno i Naioth ger Rama, disgynnodd ysbryd Duw arno yntau hefyd, ac aeth yn ei flaen dan broffwydo nes dod i Naioth ger Rama.

24 Yno fe ddiosgodd yntau ei ddillad a phroffwydo gerbron Samuel; a gorweddodd yn noeth drwy'r dydd a'r noson honno. Dyna pam y dywedir, “A yw Saul hefyd ymysg y proffwydi?”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31