1 Samuel 25 BCN

Dafydd ac Abigail

1 Bu farw Samuel, a daeth Israel gyfan ynghyd i alaru amdano a'i gladdu yn ei gartref yn Rama. Yna fe aeth Dafydd i ddiffeithwch Maon.

2 Yn Maon yr oedd dyn yn ffermio yng Ngharmel; yr oedd yn ŵr cyfoethog iawn, a chanddo dair mil o ddefaid a mil o eifr, ac yr oedd wrthi'n cneifio'i ddefaid yng Ngharmel.

3 Nabal oedd enw'r dyn, ac Abigail oedd enw ei wraig. Yr oedd hi'n ddynes ddeallus a golygus, ond yr oedd y gŵr—un o lwyth Caleb—yn galed ac anghwrtais.

4 Clywodd Dafydd yn y diffeithwch fod Nabal yn cneifio'i ddefaid,

5 ac anfonodd ddeg llanc a dweud wrthynt, “Ewch i fyny i Garmel, a mynd at Nabal a'i gyfarch yn f'enw;

6 a dywedwch fel hyn wrth fy mrawd, ‘Heddwch i ti ac i'th deulu a'th eiddo i gyd.

7 Clywais dy fod yn cneifio. Bu dy fugeiliaid gyda ni, ac nid ydym wedi eu cam-drin na pheri dim colled iddynt, yr holl adeg y buont yng Ngharmel.

8 Gofyn i'th lanciau, ac fe ddywedant wrthyt. Felly rho dderbyniad caredig i'm llanciau innau, oherwydd daethom ar ddiwrnod da; rho'r hyn sydd agosaf at dy law i'th weision ac i'th fab Dafydd.’ ”

9 Daeth llanciau Dafydd a dweud y geiriau hyn i gyd yn enw Dafydd.

10 Wedi iddynt orffen, atebodd Nabal a dweud wrth weision Dafydd, “Pwy yw Dafydd, a phwy yw mab Jesse? Y mae llawer o weision yn dianc oddi wrth eu meistri y dyddiau hyn.

11 A wyf fi i gymryd fy mara a'm dŵr a'r cig a leddais ar gyfer fy nghneifwyr, a'u rhoi i ddynion na wn o ble y maent?”

12 Troes llanciau Dafydd i ffwrdd, a dychwelyd at Ddafydd a dweud hyn i gyd wrtho.

13 Dywedodd Dafydd wrth ei ddynion, “Gwregyswch bawb ei gleddyf.” Wedi iddynt hwy a Dafydd hefyd wregysu eu cleddyfau, aeth tua phedwar cant ohonynt i fyny ar ôl Dafydd, gan adael dau gant gyda'r offer.

14 Yr oedd un o'r llanciau wedi dweud wrth Abigail, gwraig Nabal, “Clyw, fe anfonodd Dafydd negeswyr o'r diffeithwch i gyfarch ein meistr, ond fe'u difrïodd.

15 Bu'r dynion yn dda iawn wrthym ni, heb ein cam-drin na pheri dim colled inni yr holl adeg y buom yn ymdroi gyda hwy pan oeddem yn y maes.

16 Buont yn fur inni, nos a dydd, yr holl adeg y buom yn bugeilio'r praidd yn eu hymyl.

17 Ystyria'n awr ac edrych beth y gelli ei wneud, oherwydd y mae drwg wedi ei bennu i'n meistr ac yn erbyn ei deulu i gyd, ond y mae ef yn ormod o ddihiryn i neb ddweud dim wrtho.”

18 Brysiodd Abigail a chymryd dau gan torth o fara a dwy botel o win, pum dafad wedi eu paratoi a phum hobaid o greision, a hefyd can swp o rawnwin a dau gant o ffigys. Llwythodd hwy ar asynnod,

19 a dywedodd wrth ei gweision, “Ewch o'm blaen; byddaf finnau'n dod ar eich ôl.” Ond ni ddywedodd ddim wrth ei gŵr Nabal.

20 Fel yr oedd hi ar gefn ei hasyn yn dod i lawr llechwedd y mynydd, yr oedd Dafydd a'i wŷr yn dod i lawr tuag ati, a chyfarfu â hwy.

21 Yr oedd Dafydd wedi dweud, “Y mae'n amlwg mai'n ofer y bûm yn gwarchod holl eiddo hwn yn y diffeithwch, heb iddo golli dim o'r cwbl oedd ganddo; y mae wedi talu imi ddrwg am dda.

22 Gwnaed Duw fel hyn i mi, a rhagor, os gadawaf ar ôl erbyn y bore un gwryw o'r rhai sy'n perthyn iddo.”

23 Pan welodd Abigail Ddafydd, brysiodd i ddisgyn oddi ar yr asyn, ac ymgrymodd ar ei hwyneb a phlygu i'r llawr o flaen Dafydd.

24 Wedi iddi syrthio wrth ei draed, dywedodd, “Arnaf fi, syr, y bydded y bai; gad imi egluro'n awr, a gwrando dithau ar eiriau dy wasanaethferch.

25 Paid â chymryd sylw o'r dihiryn yma, Nabal. Y mae yr un fath â'i enw: Nabal, sef Ynfyd, yw ei enw, ac ynfyd yw ei natur. Ni welais i, dy wasanaethferch, mo'r llanciau a anfonaist ti, syr.

26 Felly'n awr, syr, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, gan i'r ARGLWYDD dy atal rhag dod i dywallt gwaed a dial drosot dy hun, bydded dy elynion a'r rhai sy'n ceisio drwg iti, syr, fel Nabal.

27 Yn awr, daeth dy wasanaethferch â'r rhodd hon iti, syr, i'w rhoi i'r llanciau sy'n dy ganlyn.

28 Maddau gamwri dy wasanaethferch, oherwydd yn sicr bydd yr ARGLWYDD yn creu olyniaeth sicr i ti, syr, am dy fod yn ymladd brwydrau'r ARGLWYDD; a byth ni cheir dim bai ynot.

29 Os bydd unrhyw ddyn yn codi i'th erlid ac i geisio dy fywyd, bydd dy fywyd di, syr, wedi ei rwymo yn rhwymyn bywyd gyda'r ARGLWYDD dy Dduw; ond bydd bywyd dy elynion yn cael ei hyrddio fel carreg o ffon dafl.

30 A phan fydd yr ARGLWYDD wedi gwneud daioni i ti, syr, yn ôl y cyfan a addawodd amdanat, ac wedi dy osod yn arweinydd dros Israel,

31 ni fydd hyn yn ofid nac yn boen cydwybod iti, sef dy fod wedi tywallt gwaed heb achos i ddial drosot dy hun. A phan fydd yr ARGLWYDD wedi bod yn dda wrthyt ti, syr, cofia dy wasanaethferch.”

32 Dywedodd Dafydd wrth Abigail, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel, am iddo dy anfon di heddiw i'm cyfarfod.

33 Bendith ar dy gyngor, ac arnat tithau, am iti fy atal heddiw rhag dod i dywallt gwaed a dial drosof fy hun.

34 Yn wir iti, cyn wired â bod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn fyw, yr un a'm hataliodd rhag dy ddrygu, oni bai dy fod wedi brysio i ddod i'm cyfarfod, ni fyddai'r un gwryw ar ôl gan Nabal erbyn y bore.”

35 Derbyniodd Dafydd o'i llaw yr hyn a ddygodd iddo, a dywedodd wrthi, “Dos adref mewn heddwch; edrych, yr wyf wedi gwrando arnat a chaniatáu dy gais.”

36 Pan ddaeth Abigail yn ôl at Nabal, yr oedd ganddo wledd yn ei dŷ fel gwledd brenin. Am fod calon Nabal yn llawen, ac yntau'n feddw iawn, ni ddywedodd hi wrtho yr un gair, bach na mawr, hyd y bore.

37 Trannoeth, wedi i Nabal sobri, dywedodd ei wraig yr hanes wrtho, ac aeth ei galon yn farw o'i fewn ac aeth yntau fel carreg.

38 Ymhen tua deg diwrnod, trawodd yr ARGLWYDD Nabal a bu farw.

39 Pan glywodd Dafydd fod Nabal wedi marw, dywedodd, “Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, sydd wedi dial drosof am y sarhad gan Nabal; y mae wedi atal ei was rhag gwneud camwedd, ac wedi talu'r pwyth yn ôl i Nabal.” Yna fe anfonodd Dafydd, a chynnig am Abigail i'w chymryd yn wraig iddo'i hun.

40 Daeth gweision Dafydd i Garmel at Abigail a dweud wrthi, “Y mae Dafydd wedi'n hanfon ni atat i'th gymryd yn wraig iddo.”

41 Ar unwaith ymgrymodd hithau i'r llawr a dweud, “Dyma fi, yn barod i olchi traed gweision f'arglwydd fel caethferch.”

42 Paratôdd Abigail ar unwaith i fynd, a marchogodd ar gefn asyn, gyda phump o'i morynion i'w chanlyn, a dilyn negeswyr Dafydd, a daeth yn wraig iddo.

43 Priododd Dafydd hefyd Ahinoam o Jesreel, a bu'r ddwy yn wragedd iddo.

44 Yr oedd Saul wedi rhoi ei ferch Michal, a fu'n wraig i Ddafydd, i Palti fab Lais, a oedd o Galim.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31