8 Dos i lawr o'm blaen i Gilgal, a dof finnau atat i offrymu poethoffrymau a heddoffrymau. Aros wythnos amdanaf, ac yna dangosaf iti beth i'w wneud.”
9 Wedi i Saul droi a gadael Samuel, newidiodd Duw ei galon ef, a digwyddodd yr holl arwyddion hyn yr un diwrnod.
10 Pan ddaethant i Gibea, yr oedd y fintai o broffwydi yno yn dod i'w gyfarfod; disgynnodd ysbryd Duw arno, a dechreuodd broffwydo yn eu plith.
11 Pan welodd y bobl oedd yn ei adnabod gynt ei fod yn proffwydo gyda'r proffwydi, dywedasant wrth ei gilydd, “Beth yw hyn sydd wedi digwydd i fab Cis? A yw Saul hefyd ymysg y proffwydi?”
12 Ac ychwanegodd un oedd yno, “A phwy yw eu tad?” Dyna sut y daeth y ddihareb, “A yw Saul hefyd ymysg y proffwydi?”
13 Pan orffennodd broffwydo, aeth i'r uchelfa.
14 Gofynnodd ewythr Saul iddo ef a'i was, “Ymhle y buoch?” Atebodd, “Yn chwilio am yr asennod; ac wedi inni fethu eu gweld, aethom at Samuel.”