1 Yr oedd Saul yn ddeg ar hugain oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin ar Israel am ddeugain mlynedd.
2 Dewisodd Saul dair mil o Israeliaid; yr oedd dwy fil gydag ef yn Michmas ac ucheldir Bethel, a mil gyda Jonathan yn Gibea Benjamin; anfonodd weddill y bobl adref.
3 Lladdodd Jonathan lywodraethwr y Philistiaid oedd yn Geba, a chlywodd y Philistiaid fod Saul wedi galw'r holl wlad i ryfel a bod yr Hebreaid mewn gwrthryfel.
4 Pan glywodd Israel gyfan y si fod Saul wedi lladd llywodraethwr y Philistiaid, a bod Israel yn ddrewdod yn ffroenau'r Philistiaid, ymgasglodd y bobl at Saul i Gilgal.
5 Yr oedd gan y Philistiaid a ddaeth i ryfela yn erbyn Israel ddeng mil ar hugain o gerbydau, chwe mil o farchogion, a byddin mor niferus â'r tywod ar lan y môr; ac aethant i wersyllu yn Michmas y tu dwyrain i Beth-afen.
6 Pan welodd yr Israeliaid ei bod yn gyfyng arnynt a bod y fyddin wedi ei llethu, aethant i guddio mewn ogofeydd ac agennau, ac yn y creigiau a'r cilfachau a'r tyllau.