13 Dywedodd Samuel wrth Saul, “Buost yn ffôl; pe byddit wedi cadw'r gorchymyn a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i ti, yn sicr byddai'r ARGLWYDD yn cadarnhau dy frenhiniaeth di ar Israel am byth.
14 Ond yn awr, ni fydd dy frenhiniaeth yn sefyll. Bydd yr ARGLWYDD yn ceisio gŵr yn ôl ei galon, a bydd yr ARGLWYDD yn ei osod ef yn arweinydd ar ei bobl, am nad wyt ti wedi cadw'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD iti.”
15 Cododd Samuel a mynd o Gilgal i'w ffordd ei hun, ond aeth gweddill y bobl i fyny ar ôl Saul i gyfarfod y rhyfelwyr, a dod o Gilgal i Gibea Benjamin.
16 Rhestrodd Saul y bobl oedd gydag ef, ryw chwe chant o wŷr. Yr oedd Saul a'i fab Jonathan a'r gwŷr oedd gyda hwy yn aros yn Gibea Benjamin, a'r Philistiaid yn gwersyllu yn Michmas.
17 Yr oedd tri chwmni yn mynd allan o wersyll y Philistiaid i reibio; un yn troi i gyfeiriad Offra yn ardal Sual,
18 un arall i gyfeiriad Beth-horon, a'r trydydd i gyfeiriad y terfyn uwchben dyffryn Seboim tua'r diffeithwch.
19 Nid oedd gof i'w gael drwy holl wlad Israel, am fod y Philistiaid wedi dweud, “Rhag i'r Hebreaid wneud cleddyf neu waywffon.”