15 Cododd Samuel a mynd o Gilgal i'w ffordd ei hun, ond aeth gweddill y bobl i fyny ar ôl Saul i gyfarfod y rhyfelwyr, a dod o Gilgal i Gibea Benjamin.
16 Rhestrodd Saul y bobl oedd gydag ef, ryw chwe chant o wŷr. Yr oedd Saul a'i fab Jonathan a'r gwŷr oedd gyda hwy yn aros yn Gibea Benjamin, a'r Philistiaid yn gwersyllu yn Michmas.
17 Yr oedd tri chwmni yn mynd allan o wersyll y Philistiaid i reibio; un yn troi i gyfeiriad Offra yn ardal Sual,
18 un arall i gyfeiriad Beth-horon, a'r trydydd i gyfeiriad y terfyn uwchben dyffryn Seboim tua'r diffeithwch.
19 Nid oedd gof i'w gael drwy holl wlad Israel, am fod y Philistiaid wedi dweud, “Rhag i'r Hebreaid wneud cleddyf neu waywffon.”
20 Byddai pob Israeliad yn mynd at y Philistiaid i hogi ei swch a'i gaib a'i fwyell a'i gryman;
21 a'r pris oedd deuparth sicl am swch neu gaib, a thraean sicl am hogi'r bwyeill ac am osod swmbwl.