23 Y dydd hwnnw gwaredodd yr ARGLWYDD Israel, ac ymledodd y frwydr tu hwnt i Beth-afen.
24 Ond aeth yn gyfyng ar yr Israeliaid y diwrnod hwnnw, oherwydd i Saul dynghedu'r bobl a dweud, “Melltigedig fyddo'r un sy'n bwyta tamaid cyn yr hwyr! Yr wyf am ddial ar fy ngelynion.” Ac ni phrofodd yr un o'r bobl damaid.
25 Daethant oll i goedwig lle'r oedd mêl gwyllt;
26 a phan ddaethant yno a gweld llif o fêl, nid estynnodd neb ei law at ei geg, am fod y bobl yn ofni'r llw.
27 Nid oedd Jonathan wedi clywed ei dad yn gwneud i'r bobl gymryd y llw, ac estynnodd y ffon oedd yn ei law a tharo'i blaen yn y diliau mêl, ac yna'i chodi at ei geg; a gloywodd ei lygaid.
28 Yna dywedodd un o'r bobl wrtho, “Y mae dy dad wedi gosod llw caeth ar y bobl, ac wedi dweud, ‘Melltigedig yw pob un sy'n bwyta tamaid heddiw’. Ac yr oedd y bobl yn lluddedig.”
29 Atebodd Jonathan, “Y mae fy nhad wedi gwneud drwg i'r wlad; edrychwch fel y gloywodd fy llygaid pan brofais fymryn o'r mêl hwn.