41 Dywedodd Saul wrth yr ARGLWYDD, Duw Israel, “Pam nad atebaist dy was heddiw? Os yw'r camwedd hwn ynof fi neu yn fy mab Jonathan, O ARGLWYDD Dduw Israel, rho Wrim; ond os yw'r camwedd hwn yn dy bobl Israel, rho Twmim.” Daliwyd Jonathan a Saul, ac aeth Israel yn rhydd.
42 Dywedodd Saul, “Bwriwch goelbren rhyngof fi a'm mab Jonathan.” A daliwyd Jonathan.
43 Yna dywedodd Saul wrth Jonathan, “Dywed wrthyf beth a wnaethost.” Eglurodd Jonathan iddo, a dweud, “Dim ond profi mymryn o fêl ar flaen y ffon oedd yn fy llaw. Dyma fi, rwy'n barod i farw.”
44 Atebodd Saul, “Fel hyn y gwna Duw i mi, a rhagor, os na fydd Jonathan farw.”
45 Ond dyma'r bobl yn dweud wrth Saul, “A gaiff Jonathan farw, ac yntau wedi ennill y fuddugoliaeth fawr hon i Israel? Pell y bo! Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff blewyn o wallt ei ben syrthio i'r llawr. Gyda Duw y gweithiodd ef y diwrnod hwn.” Prynodd y bobl ryddid Jonathan, ac ni fu farw.
46 Dychwelodd Saul o ymlid y Philistiaid, ac aeth y Philistiaid adref.
47 Wedi i Saul ennill y frenhiniaeth ar Israel, ymladdodd â'i holl elynion oddi amgylch—Moab, yr Ammoniaid, Edom, brenhinoedd Soba a'r Philistiaid—a'u darostwng ble bynnag yr âi.