49 Jonathan, Isfi a Malcisua oedd meibion Saul. Enw'r hynaf o'i ddwy ferch oedd Merab, ac enw'r ieuengaf Michal.
50 Ahinoam ferch Ahimaas oedd gwraig Saul, ac Abner fab Ner, ewythr Saul, oedd pennaeth ei lu.
51 Yr oedd Cis tad Saul a Ner tad Abner yn feibion i Abiel.
52 Bu rhyfel caled yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Saul; ac os gwelai Saul ŵr cryf a dewr, fe'i cymerai ato.