7 Dywedodd cludydd ei arfau wrtho, “Gwna beth bynnag sydd yn dy fryd; dygna arni; rwyf gyda thi, galon wrth galon.”
8 Dywedodd Jonathan, “Edrych yma, fe awn drosodd at y dynion a'n dangos ein hunain iddynt.
9 Os dywedant wrthym, ‘Arhoswch lle'r ydych nes y byddwn wedi dod atoch’, fe arhoswn lle byddwn heb fynd atynt.
10 Ond os dywedant, ‘Dewch i fyny atom’, yna awn i fyny, oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn eu rhoi yn ein llaw; a bydd hyn yn arwydd inni.”
11 Dangosodd y ddau ohonynt eu hunain i wylwyr y Philistiaid, a dywedodd y Philistiaid, “Dyma Hebreaid yn dod allan o'r tyllau lle buont yn cuddio.”
12 A gwaeddodd dynion yr wyliadwriaeth ar Jonathan a'i gludydd arfau, a dweud, “Dewch i fyny atom, i ni gael dangos rhywbeth i chwi.” Dywedodd Jonathan wrth ei gludydd arfau, “Tyrd i fyny ar f'ôl i, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi yn llaw Israel.”
13 Dringodd Jonathan i fyny ar ei ddwylo a'i draed, gyda'i gludydd arfau ar ei ôl. Cwympodd y gwylwyr o flaen Jonathan, a daeth ei gludydd arfau ar ei ôl i'w dienyddio.