28 Ac meddai Samuel wrtho, “Y mae'r ARGLWYDD wedi rhwygo brenhiniaeth Israel oddi wrthyt heddiw, ac am ei rhoi i un yn d'ymyl sy'n well na thi.
29 Nid yw Ysblander Israel yn dweud celwydd nac yn edifarhau, oherwydd nid meidrolyn yw ef, i newid ei feddwl.”
30 Dywedodd Saul eto, “Rwyf ar fai, ond dangos di barch tuag ataf gerbron henuriaid fy mhobl a'r Israeliaid, a thyrd yn ôl gyda mi, er mwyn imi ymostwng gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw.”
31 Yna dychwelodd Samuel gyda Saul, ac ymostyngodd Saul gerbron yr ARGLWYDD.
32 A dywedodd Samuel, “Dewch ag Agag brenin Amalec ataf fi.” Daeth Agag ato'n anfoddog, a dweud, “Fe giliodd chwerwder marwolaeth.”
33 Ond dywedodd Samuel:“Fel y gwnaeth dy gleddyf di wragedd yn ddi-blant,felly bydd dy fam dithau'n ddi-blant ymysg gwragedd.”Yna darniodd Samuel Agag gerbron yr ARGLWYDD yn Gilgal.
34 Wedyn aeth Samuel i Rama, a Saul i'w gartref yn Gibea Saul.