6 a dweud wrth y Ceneaid, “Ewch i ffwrdd, cefnwch ar yr Amaleciaid, rhag imi eich distrywio chwi gyda hwy; oherwydd buoch chwi'n garedig wrth yr holl Israeliaid pan oeddent yn dod i fyny o'r Aifft.” Aeth y Ceneaid ymaith oddi wrth yr Amaleciaid;
7 yna trawodd Saul Amalec o Hafila hyd at Sur ar gwr yr Aifft.
8 Daliodd Agag brenin Amalec yn fyw, ond lladdodd y bobl i gyd â'r cleddyf.
9 Arbedodd Saul a'r fyddin nid yn unig Agag, ond hefyd y gorau o'r defaid a'r gwartheg, yr anifeiliaid breision a'r ŵyn, a phopeth o werth. Nid oeddent yn fodlon difa'r rheini; ond difodwyd popeth gwael a diwerth.
10 Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Samuel, yn dweud,
11 “Y mae'n edifar gennyf fy mod wedi gwneud Saul yn frenin, oherwydd y mae wedi cefnu arnaf a heb gadw fy ngorchymyn.” Digiodd Samuel, a galwodd ar yr ARGLWYDD drwy'r nos.
12 Bore trannoeth cododd yn gynnar i gyfarfod â Saul, ond dywedwyd wrtho fod Saul wedi mynd i Garmel, ac wedi codi cofeb iddo'i hun yno cyn troi'n ôl a mynd draw i Gilgal.