1 Wedi i Ddafydd orffen siarad â Saul, ymglymodd enaid Jonathan wrth enaid Dafydd, a charodd ef fel ef ei hun.
2 Cymerodd Saul ef y dydd hwnnw, ac ni chaniataodd iddo fynd adref at ei dad.
3 Gwnaeth Jonathan gyfamod â Dafydd am ei fod yn ei garu fel ef ei hun;
4 tynnodd y fantell oedd amdano a'i rhoi i Ddafydd; hefyd ei arfau, hyd yn oed ei gleddyf, ei fwa a'i wregys.
5 Llwyddodd Dafydd ym mhob gorchwyl a roddai Saul iddo, a gosododd Saul ef yn bennaeth ei filwyr, er boddhad i bawb, gan gynnwys swyddogion Saul.
6 Un tro yr oeddent ar eu ffordd adref, a Dafydd yn dychwelyd ar ôl taro'r Philistiaid, a daeth y gwragedd allan ym mhob tref yn Israel i edrych; aeth y merched dawnsio i gyfarfod y Brenin Saul gyda thympanau a molawdau a thrionglau,
7 ac yn eu llawenydd canodd y gwragedd:“Lladdodd Saul ei filoedd,a Dafydd ei fyrddiynau.”