10 Trannoeth meddiannwyd Saul gan yr ysbryd drwg, a pharablodd yn wallgof yng nghanol y tŷ, ac yr oedd Dafydd yn canu'r delyn yn ôl ei arfer.
11 Yr oedd gan Saul waywffon yn ei law, a hyrddiodd hi, gan feddwl trywanu Dafydd i'r pared, ond osgôdd Dafydd ef ddwywaith.
12 Cafodd Saul ofn rhag Dafydd oherwydd fod yr ARGLWYDD wedi troi o'i blaid ef ac yn erbyn Saul.
13 Gyrrodd Saul ef i ffwrdd oddi wrtho, a'i wneud yn gapten ar fil o ddynion; ac ef oedd yn arwain y fyddin.
14 Yr oedd Dafydd yn llwyddiannus ym mhopeth a wnâi, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef.
15 Pan welodd Saul mor llwyddiannus oedd Dafydd, yr oedd arno fwy o'i ofn.
16 Yr oedd Israel a Jwda i gyd yn ymserchu yn Nafydd am mai ef oedd yn arwain y fyddin.