17 Dywedodd Saul wrth Ddafydd, “Dyma fy merch hynaf, Merab. Fe'i rhoddaf yn wraig i ti, ond i ti ddangos gwrhydri i mi ac ymladd brwydrau'r ARGLWYDD.” Meddwl yr oedd Saul, “Peidied fy llaw i â'i gyffwrdd, ond yn hytrach law y Philistiaid.”
18 Atebodd Dafydd, “Pwy wyf fi, a beth yw tras llwyth fy nhad yn Israel, i mi fod yn fab-yng-nghyfraith i'w brenin?”
19 Ond pan ddaeth yr amser i roi Merab ferch Saul i Ddafydd, rhoddwyd hi'n wraig i Adriel o Mehola.
20 Syrthiodd Michal ferch Saul mewn cariad â Dafydd, a phan ddywedwyd wrth Saul, yr oedd hynny'n dderbyniol ganddo.
21 Meddyliodd Saul, “Fe'i rhoddaf hi iddo; bydd hi'n fagl iddo, er mwyn i law y Philistiaid ei daro.” A dywedodd Saul wrth Ddafydd am yr eildro, “Yn awr cei fod yn fab-yng-nghyfraith imi.”
22 Yna gorchmynnodd Saul i'w weision, “Dywedwch yn ddistaw bach wrth Ddafydd, ‘Y mae'r brenin, weli di, yn falch ohonot, a phawb o'i weision yn dy hoffi; yn awr, prioda ferch y brenin’.”
23 Pan sibrydodd gweision Saul y pethau hyn yng nghlust Dafydd, dywedodd ef, “Ai dibwys o beth yn eich golwg yw priodi merch y brenin? Dyn tlawd a dinod wyf fi.”