1 Gweddïodd Hanna a dweud:“Gorfoleddodd fy nghalon yn yr ARGLWYDD,dyrchafwyd fy mhen yn yr ARGLWYDD.Codaf fy llais yn erbyn fy ngelynion,oherwydd rwy'n llawenhau yn dy iachawdwriaeth.
2 Nid oes sanct fel yr ARGLWYDD,yn wir nid oes neb heblaw tydi,ac nid oes craig fel ein Duw ni.
3 Peidiwch ag amlhau geiriau trahaus,na gadael gair hy o'ch genau;canys Duw sy'n gwybod yw'r ARGLWYDD,ac ef sy'n pwyso gweithredoedd.
4 Dryllir bwâu y cedyrn,ond gwregysir y gwan â nerth.
5 Bydd y porthiannus yn gweithio am eu bara,ond y newynog yn gorffwyso bellach.Planta'r ddi-blant seithwaith,ond dihoeni a wna'r aml ei phlant.
6 Yr ARGLWYDD sy'n lladd ac yn bywhau,yn tynnu i lawr i Sheol ac yn dyrchafu.
7 Yr ARGLWYDD sy'n tlodi ac yn cyfoethogi,yn darostwng a hefyd yn dyrchafu.