17 Yr oedd pechod y llanciau yn fawr iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, oherwydd yr oedd dynion yn ffieiddio offrwm yr ARGLWYDD.
18 Yr oedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu gerbron yr ARGLWYDD mewn effod liain.
19 Byddai ei fam yn gwneud mantell fach iddo, ac yn dod â hi iddo bob blwyddyn pan ddôi gyda'i gŵr i offrymu'r aberth blynyddol.
20 A byddai Eli'n bendithio Elcana a'i wraig cyn iddynt fynd adref, ac yn dweud, “Rhodded yr ARGLWYDD blant iti o'r wraig hon yn lle'r un a fenthyciwyd i'r ARGLWYDD.”
21 Ac fe ymwelodd yr ARGLWYDD â Hanna, a beichiogodd a geni tri mab a dwy ferch. Tyfodd y bachgen Samuel yn nhŷ'r ARGLWYDD.
22 Pan oedd Eli'n hen iawn, clywodd am y cwbl a wnâi ei feibion drwy Israel gyfan, a'u bod yn gorwedd gyda'r gwragedd oedd yn gweini wrth ddrws pabell y cyfarfod.
23 Dywedodd wrthynt, “Pam y gwnewch bethau fel hyn? Rwy'n clywed gair drwg amdanoch gan y bobl yma i gyd.