33 Bydd unrhyw un o'r eiddot na fyddaf yn ei dorri i ffwrdd oddi wrth fy allor yn boen llygad ac yn ofid calon iti, a bydd holl blant dy deulu yn dihoeni a marw.
34 Bydd yr hyn a ddigwydd i'th ddau fab, Hoffni a Phinees, yn argoel iti: bydd farw'r ddau yr un diwrnod.
35 Sefydlaf i mi fy hun offeiriad ffyddlon a weithreda yn ôl fy nghalon a'm meddwl; adeiladaf iddo dŷ sicr a bydd yn gwasanaethu gerbron f'eneiniog yn wastadol.
36 A bydd pob un a adewir yn dy dŷ di yn dod i foesymgrymu iddo am ddarn arian neu dorth o fara a dweud, ‘Rho imi unrhyw swydd yn yr offeiriadaeth, imi gael tamaid o fara’.”