6 Yr ARGLWYDD sy'n lladd ac yn bywhau,yn tynnu i lawr i Sheol ac yn dyrchafu.
7 Yr ARGLWYDD sy'n tlodi ac yn cyfoethogi,yn darostwng a hefyd yn dyrchafu.
8 Y mae'n codi'r gwan o'r llwchac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen,i'w osod i eistedd gyda phendefigionac i etifeddu cadair anrhydedd;canys eiddo'r ARGLWYDD golofnau'r ddaear,ac ef a osododd y byd arnynt.
9 Y mae'n gwarchod camre ei ffyddloniaid,ond y mae'r drygionus yn tewi mewn tywyllwch;canys nid trwy rym y mae trechu.
10 Dryllir y rhai sy'n ymryson â'r ARGLWYDD;tarana o'r nef yn eu herbyn.Yr ARGLWYDD a farna eithafoedd daear;fe rydd nerth i'w frenina dyrchafu pen ei eneiniog.”
11 Yna dychwelodd Elcana adref i Rama, ond yr oedd y bachgen yn gwasanaethu'r ARGLWYDD gerbron yr offeiriad Eli.
12 Yr oedd meibion Eli yn wŷr ofer, heb gydnabod yr ARGLWYDD.