3 Yn awr, beth sydd gennyt wrth law? Gad imi gael pum torth, neu'r hyn sydd gennyt.”
4 Atebodd yr offeiriad, “Nid oes gennyf ddim bara cyffredin wrth law; ond y mae yma fara cysegredig—os yw'r milwyr wedi ymgadw'n llwyr oddi wrth wragedd.”
5 Atebodd Dafydd, “Yn wir y mae'n hen arfer gennym ymgadw oddi wrth wragedd pan fyddaf yn cychwyn ar ymgyrch, fel bod arfau'r milwyr yn gysegredig; ac os yw felly ar siwrnai gyffredin, pa faint mwy y bydd yr arfau'n gysegredig heddiw?”
6 Yna fe roddodd yr offeiriad iddo'r bara cysegredig, gan nad oedd yno ddim ond y bara gosod oedd wedi ei symud o bresenoldeb yr ARGLWYDD, er mwyn gosod bara ffres ar ddiwrnod y cyfnewid.
7 Ar y pryd, yr oedd un o weision Saul yno dan adduned gerbron yr ARGLWYDD; ei enw oedd Doeg yr Edomiad, ac ef oedd penbugail Saul.
8 Gofynnodd Dafydd i Ahimelech, “Onid oes yma waywffon neu gleddyf wrth law gennyt? Oherwydd ni ddeuthum â'm cleddyf na'm harfau gyda mi, am fod cymaint brys gyda gorchymyn y brenin.”
9 Atebodd yr offeiriad, “Beth am gleddyf Goliath y Philistiad, y dyn a leddaist yn nyffryn Ela? Y mae hwnnw yma wedi ei lapio mewn brethyn y tu ôl i'r effod. Os wyt ti am hwnnw, cymer ef, oherwydd nid oes yma yr un arall ond hwnnw.”