9 Pan ddeallodd Dafydd fod Saul yn cynllunio drwg yn ei erbyn, dywedodd wrth yr offeiriad Abiathar, “Estyn yr effod.”
10 Yna dywedodd Dafydd, “O ARGLWYDD Dduw Israel, y mae dy was wedi clywed yn bendant fod Saul yn ceisio dod i Ceila i ddinistrio'r dref o'm hachos i.
11 A fydd awdurdodau Ceila yn fy rhoi iddo? A ddaw Saul i lawr fel y clywodd dy was? O ARGLWYDD Dduw Israel, rho ateb i'th was.” Atebodd yr ARGLWYDD, “Fe ddaw.”
12 Yna gofynnodd Dafydd, “A fydd awdurdodau Ceila yn fy rhoi i a'm gwŷr yn llaw Saul?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Byddant.” Yna cododd Dafydd gyda'i wŷr, tua chwe chant ohonynt, ac aethant o Ceila a symud o le i le.
13 Pan ddywedwyd wrth Saul fod Dafydd wedi dianc o Ceila, peidiodd â chychwyn allan.
14 Tra oedd Dafydd yn byw mewn llochesau yn y diffeithwch ac yn aros yn y mynydd-dir yn niffeithwch Siff, yr oedd Saul yn chwilio amdano trwy'r adeg, ond ni roddodd Duw ef yn ei law.
15 Yr oedd Dafydd yn gweld mai dod allan i geisio'i fywyd yr oedd Saul; felly arhosodd Dafydd yn Hores yn niffeithwch Siff.