1 Pan ddaeth Saul yn ôl o ymlid y Philistiaid, dywedwyd wrtho fod Dafydd yn niffeithwch En-gedi.
2 Felly cymerodd Saul dair mil o wŷr wedi eu dewis allan o Israel gyfan, a mynd i chwilio am Ddafydd a'i wŷr ar hyd copa creigiau'r geifr gwylltion.
3 Pan ddaeth at gorlannau'r defaid ar y ffordd, yr oedd yno ogof, ac aeth Saul i mewn i esmwytho'i gorff; ond yr oedd Dafydd a'i wŷr yno ym mhen draw'r ogof.
4 Ac meddai gwŷr Dafydd wrtho, “Dyma'r diwrnod y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt y byddai'n rhoi dy elyn yn dy law, a chei wneud iddo beth a fynni.” Cododd Dafydd yn ddistaw a thorrodd gwr y fantell oedd am Saul.
5 Ond wedyn pigodd cydwybod Dafydd ef, am iddo dorri cwr mantell Saul,
6 a dywedodd wrth ei ddynion, “Yr ARGLWYDD a'm gwared rhag imi wneud y fath beth i'm harglwydd, eneiniog yr ARGLWYDD, ac estyn llaw yn ei erbyn, oherwydd eneiniog yr ARGLWYDD yw.”
7 Ataliodd Dafydd ei wŷr â'r geiriau hyn rhag iddynt ymosod ar Saul.