1 Yr adeg honno casglodd y Philistiaid eu lluoedd arfog i ryfela ag Israel. Dywedodd Achis wrth Ddafydd, “Yr wyf am i ti wybod dy fod ti a'th ddynion i fynd allan gyda mi yn y fyddin.”
2 Dywedodd Dafydd, “Cei wybod felly beth a all dy was ei wneud.” Ac meddai Achis, “Am hynny yr wyf yn dy benodi'n warchodwr personol i mi am byth.”
3 Yr oedd Samuel wedi marw, ac yr oedd Israel gyfan wedi galaru amdano a'i gladdu yn ei dref ei hun, Rama. Ac yr oedd Saul wedi gyrru ymaith y dewiniaid a'r swynwyr o'r wlad.
4 Pan ymgasglodd y Philistiaid a dod a gwersyllu yn Sunem, fe gasglodd Saul Israel gyfan a gwersyllu yn Gilboa.
5 Ond, pan welodd Saul wersyll y Philistiaid, cododd ofn a dychryn mawr yn ei galon.
6 Ceisiodd Saul yr ARGLWYDD, ond nid oedd yr ARGLWYDD yn ateb trwy freuddwydion na bwrw coelbren na phroffwydi.