10 Tyngodd Saul iddi yn enw'r ARGLWYDD, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni ddaw dim niwed iti o hyn.”
11 Yna gofynnodd hi, “Pwy a ddygaf i fyny iti?” Dywedodd yntau, “Dwg Samuel i fyny imi.”
12 Pan welodd y ddynes Samuel, gwaeddodd â llais uchel, a dweud wrth Saul, “Pam yr wyt wedi fy nhwyllo? Saul wyt ti.”
13 Dywedodd y brenin wrthi, “Paid ag ofni; beth wyt yn ei weld?” Ac meddai'r ddynes wrth Saul, “Rwy'n gweld ysbryd yn dod i fyny o'r ddaear.”
14 Gofynnodd yntau, “Sut ffurf sydd iddo?” Atebodd hithau, “Hen ŵr yn gwisgo mantell sy'n dod i fyny.” Deallodd Saul mai Samuel oedd, a gostyngodd ar ei wyneb i'r llawr ac ymgrymu.
15 Yna dywedodd Samuel wrth Saul, “Pam yr wyt wedi aflonyddu arnaf a dod â mi i fyny?” Atebodd Saul, “Y mae'n gyfyng iawn arnaf; y mae'r Philistiaid yn rhyfela yn f'erbyn, a Duw wedi fy ngadael; nid yw'n fy ateb mwyach drwy na phroffwydi na breuddwydion, a gelwais arnat ti i ddweud wrthyf beth i'w wneud.”
16 Ac meddai Samuel, “Ond pam yr wyt yn gofyn i mi, a'r ARGLWYDD wedi dy adael a dod yn wrthwynebwr iti?