5 Ond, pan welodd Saul wersyll y Philistiaid, cododd ofn a dychryn mawr yn ei galon.
6 Ceisiodd Saul yr ARGLWYDD, ond nid oedd yr ARGLWYDD yn ateb trwy freuddwydion na bwrw coelbren na phroffwydi.
7 Yna dywedodd Saul wrth ei weision, “Chwiliwch am ddewines, imi ymweld â hi i ofyn ei chyngor.”
8 Dywedodd ei weision wrtho, “Y mae yna ddewines yn Endor.” Newidiodd Saul ei ymddangosiad, a gwisgo dillad gwahanol, ac aeth â dau ddyn gydag ef a dod at y ddynes liw nos a dweud, “Consuria imi trwy ysbryd, a dwg i fyny ataf y sawl a ddywedaf wrthyt.”
9 Dywedodd y ddynes wrtho, “Fe wyddost beth a wnaeth Saul, ei fod wedi difa'r dewiniaid a'r swynwyr o'r wlad; pam felly yr wyt ti'n ceisio fy rhwydo a'm lladd?”
10 Tyngodd Saul iddi yn enw'r ARGLWYDD, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni ddaw dim niwed iti o hyn.”
11 Yna gofynnodd hi, “Pwy a ddygaf i fyny iti?” Dywedodd yntau, “Dwg Samuel i fyny imi.”